UNSAIN a’r iaith Gymraeg

Dyma gopi o e-bost rwyf i wedi anfon i’r undeb rwy’n aelod ohono:

Annwyl UNSAIN,

Un peth oedd yn siomedig o fod yn aelod o UNSAIN yw prin iawn yw’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Ond dydd Llun, derbyniais becyn drwy’r post oedd yn mynd a phethau rhy bell.

Yr unig ddarn o Gymraeg yn yr holl becyn oedd y darn rwy’n atodi fel llun.

Mae’n amlwg nid oes unrhyw ymdrech wedi i’w wneud i wirio’r testun Cymraeg yn y llyfr, sydd llawn camgymeriadau. Fel Cymro Cymraeg sy’n byw mewn cymdeithas Gymreig, mae hyn braidd yn sarhaus. Wrth ymchwilio ymhellach, darganfyddais bod gwefan eich cangen “Ymlaen” yn defnyddio Google Translate i gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg. Tydi hyn ddim digon da. I feddwl eich bod yn gallu fforddio rhoi miliynau i’r Blaid Lafur, siawns fedrwch fforddio rhywun i gyfieithu a gwirio ansawdd y Gymraeg?

Tydw i ddim yn fodlon talu dros £200 y flwyddyn i undeb sydd efo agwedd fel hyn at fy iaith gyntaf. Felly, hoffwn ganslo fy aelodaeth i UNSAIN ar unwaith, tan mae pethau wedi gwella.

A dyma’r darn dan sylw:

DSC_0188

Marciau llawn i’r cyfieithiad “VOTE FOR LINDA SWEET FOR CYMRU/WALES FEMALE SEAT 2105-17” i “PLEIDLAIS I FENYWOD Y MELYS AR GYFER CYMRU/WALES LINDA SWEET 2015-17”.

Ers anfon y neges rwyf i wedi llwyddo canslo fy aelodaeth, a hefyd wedi cael sgwrs adeiladol a gwybodus efo swyddog Cymraeg o’r gangen leol. O ran y darn uchod, cododd bwynt digon teg bod UNSAIN yn rhoi datganiadau ymgeiswyr fel y mae nhw, ac mae o fyny i’r ymgeisydd i wirio unrhyw gamgymeriadau. Ar y llaw arall, nid oes llawer o wahaniaeth rhwng be mae Linda Sweet wedi gwneud a’r ffordd mae ymlaen.org yn cyfieithu eu gwefan. Ac i fod yn deg ar Linda Sweet, hi yw’r unig un wnaeth ymdrech i wneud datganiad dwyieithog (ond bod yr ymdrech yna yn ofnadwy). Sydd yn fwy na be mae gwefan UNSAIN Cymru yn ei wneud – “Please note that the content of our UNISON Cymru/Wales website is currently only available in English.”

O ran UNSAIN ei hun, dywedodd bod swyddogion Cymraeg ar draws y wlad yn ymdrechu i gael pethau’n ddwyieithog, a hefyd yn galw am ragor o ddatganoli i UNSAIN yng Nghymru fel eu bod yn cael yr un pwerau na UNSAIN yn yr Alban (mae’r math yma o stori yn mynd rhy gyfarwydd). Roeddwn yn falch iawn o glywed bod hyn ar yr agenda. Pob lwc iddynt gyflawni be sydd angen i wneud, a diolch iddynt am wneud yr ymdrech. Ond fel dwedes i yn fy neges, nai ddim ystyried ail-ymuno tan mae pethau wedi gwella.

Yn y cyfamser, oes rhywun yn gwybod am undeb sy’n darparu gwasanaeth a gwybodaeth Gymraeg o safon i’w aelodau?…

Gadael sylw